Ein gwaith hyd yma

Ym mis Mehefin 2022 fe wnaethom ni gyhoeddi Adroddiad Cwmpasu a oedd yn amlinellu’r hyn roeddem yn ei ddeall, ar y pryd, fel effeithiau tebygol y prosiect ar yr amgylchedd a sut byddem yn asesu’r rheini.

Ar ôl cyhoeddi ein Hadroddiad Cwmpasu, cawsom Farn Gwmpasu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, a ddarparwyd ym mis Awst 2022.

Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn cynnal amrywiaeth o asesiadau amgylcheddol er mwyn deall effeithiau posibl y prosiect yn well. Rydyn ni hefyd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall yn fanylach y maes rydyn ni'n bwriadu gweithio ynddo.

Mae ein hasesiadau amgylcheddol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau data, gan gynnwys arolygon sy’n benodol i’r prosiect. Hyd yma, rydyn ni wedi cynnal yr arolygon canlynol:

  • Arolygon geoffisegol – i wahaniaethu rhwng nodweddion ffisegol y safle, yr arwyneb a’r is-wyneb.
  • Arolygon benthig – i ganfod a mapio unrhyw gynefinoedd. Crewyd fideos a chasglwyd samplau o waddodion
  • Arolygon o’r awyr – i gofnodi’r amrywiaeth o rywogaethau a niferoedd adar a mamaliaid morol ar draws y safle. Hyd yma, rydyn ni wedi prosesu gwerth blwyddyn o ddata ac mae gennym werth blwyddyn arall o ddata a fydd yn bwydo i mewn i’n hasesiad terfynol.
  • Ffotograffau golygfan – i ddadansoddi’r golygfeydd presennol o’u cymharu â safbwyntiau dangosol y Prosiect arfaethedig.
  • Arolygon traffig llongau morol – cynhaliwyd dau arolwg ar y môr yn para 14 diwrnod i gofnodi gweithgarwch morgludo yn yr ardal o amgylch y Prosiect.

Gan ddefnyddio’r ystod eang o ddata a gasglwyd, rydyn ni wedi cynhyrchu Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR). Mae’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol yn rhoi crynodeb o’r Prosiect, y broses o ddewis safle, datblygiad dylunio peirianyddol a chanfyddiadau allweddol y broses Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol hyd yma.

Pwrpas yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yw galluogi rhanddeiliaid i ddatblygu barn wybodus am y datblygiad, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2017 (Rheoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol 2017).

Mae’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol yn ymdrin hefyd ag amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau amgylcheddol. Mae’n cyflwyno asesiadau ac effeithiau posibl a nodwyd yn y Farn Gwmpasu a gafwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Drwy gydol ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, rydyn ni wedi nodi sut aethom i’r afael â’r sylwadau sydd wedi’u cynnwys yn y Farn Gwmpasu.

Delweddau

Nid yw maint, nifer a lleoliad ein tyrbinau wedi'u penderfynu eto. Ond yn y cyfnod cynnar hwn rydym wedi creu delweddiadau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o Fferm Wynt Alltraeth Morecambe o ystod o leoliadau ar y tir.

Gweld map

Mae amrywiaeth eang o ddadansoddiadau wedi ategu’r asesiadau, gan gynnwys:

  • Modelu sŵn o dan y dŵr – deall yr effeithiau, yn enwedig yn y cam adeiladu yn ystod gweithgareddau a allai fod yn swnllyd (fel gosod seilbyst).
  • Modelu risg gwrthdrawiadau – i ragweld nifer yr adar a fyddai mewn perygl o ddod ar draws tyrbinau neu lafnau rotor.
  • Modelu llinell olwg radar – yn nodi’r radarau sy’n debygol o ganfod y Prosiect.
  • Asesiad risg mordwyol – a gynhaliwyd ar gyfer y Prosiect ochr yn ochr â Phrosiectau cyfagos eraill er mwyn nodi ac asesu’r peryglon a’r risgiau sy’n effeithio ar fordwyo llongau.

Daeth yr asesiadau ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau i’r casgliad na fydd y Prosiect yn arwain at effeithiau sylweddol, ar ei ben ei hun nac wrth ystyried y Prosiect ochr yn ochr â gweithgareddau, cynlluniau a phrosiectau eraill. Bydd angen cytuno ar fesurau lliniaru penodol a nodwyd, a’u datblygu ymhellach gyda rhanddeiliaid.

Ar gyfer pynciau lle nodwyd effeithiau sylweddol, mae rhagor o waith dadansoddi ac asesiadau wrthi’n cael eu gwneud.

Mae’r canfyddiadau wedi’u nodi ym mhob pennod o’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, ac wedi cael eu crynhoi yn y Datganiad Annhechnegol o'r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, gyda gwybodaeth am rai o’r pynciau yma:

Adareg

Mae’r asesiad o adar y môr yn y cam adeiladu yn cynnwys aflonyddwch a dadleoliad ac effeithiau anuniongyrchol ar gynefinoedd a rhywogaethau ysglyfaeth, gan gynnwys rhywogaethau sensitif fel y trochydd gyddfgoch (yn y llun). Ar ben hynny, yn ystod y camau gweithredu a chynnal a chadw, mae’r effeithiau posibl hefyd yn cynnwys risg o wrthdaro.

Ni nodwyd unrhyw effeithiau arwyddocaol ar gyfer y Prosiect yn unig. Roedd hyn yn cynnwys unrhyw risg o wrthdaro â thyrbinau, yr asesir nad yw’n fwy na bach, ac nad yw’n arwyddocaol, ar gyfer yr holl rywogaethau a gofnodwyd yn hedfan ar safle’r fferm wynt. Mae hyn yn cynnwys y rhywogaethau mwyaf sensitif, fel hugan, gwylan goesddu (yn y llun), gwylan y gweunydd, gwylan y penwaig, gwylan gefnddu leiaf a gwylan gefnddu fwyaf.

Pan fydd yr asesiad yn cynnwys cynlluniau a phrosiectau eraill yn yr ardal, bydd yn cael ei ystyried yn fanylach wrth i’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol fynd rhagddo a phan fydd yr holl ddata ar gael.


Nodweddion economaiddgymdeithasol, twristiaeth a hamdden

Roedd ein hasesiad yn defnyddio amrywiaeth o ystadegau a oedd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer ardal yr astudiaeth leol: Lerpwl, Halton, Sefton, Cilgwri, Copeland, South Lakeland, Barrowin-Furness, Blackpool, Fylde, Caerhirfyn, Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, Wyre, Caer a Gorllewin Swydd Gaer, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, yn ogystal â’r DU yn gyffredinol.

Ni nodwyd unrhyw effeithiau sylweddol ar yr economi dwristiaeth, gweithgareddau hamdden nac asedau cymunedol.

Gallai manteision posibl ddeillio o gynnydd mewn gwariant, a hwb i’r economi yn sgil hynny yn ystod y gwaith o adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r Prosiect.

Mae potensial am hwb i greu cyfleoedd cyflogaeth yn ystod cyfnod adeiladu’r Prosiect.

Mamaliaid morol

Mae ein gwaith hyd yma wedi ein galluogi i ganfod y mamaliaid morol mwyaf perthnasol yn yr ardal, gan gynnwys y llamhidydd (yn y llun), dolffin trwyn potel, dolffin cyffredin, dolffin Risso, dolffin pigwyn, morfil pigfain, morlo llwyd a morlo cyffredin.

Cynhaliwyd gwaith modelu sŵn o dan y dŵr er mwyn deall yn well pa ddylanwad y mae effeithiau sŵn tanddwr yn ei gael ar famaliaid morol.

Canfu’r asesiadau mai dim ond ‘mân niweidiol’ oeddent, gyda mesurau lliniaru ar gyfer y Prosiect yn unig. A byddai effeithiau ‘nad ydynt yn arwyddocaol’ ar famaliaid morol.

Pan fydd yr asesiad yn cynnwys cynlluniau a phrosiectau eraill yn yr ardal, bydd yn cael ei ystyried yn fanylach wrth i’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol fynd rhagddo a phan fydd yr holl ddata ar gael.


Asesiad o’r Effaith Weledol a’r Effaith ar y Morwedd a’r Tirwedd (SLVIA)

Ar gyfer yr asesiadau, roedd ardal yr astudiaeth yn cynnwys Cumbria, Swydd Gaerhirfryn a Glannau Mersi yn Lloegr; ardal diriogaethol ddeheuol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn yng Nghymru; ac ardal orllewinol ar y môr, a ddiffinnir gan ddyfroedd Môr Iwerddon ac Ynys Manaw.

Roedd yr asesiadau’n nodi bod y rhan fwyaf o olygfeydd o'r Prosiect naill ai’n bell a / neu’n cael eu dominyddu gan ffermydd gwynt sydd eisoes ar y môr. Mae’r ardaloedd sy’n cael yr effeithiau gweledol mwyaf, yr ystyrir eu bod yn arwyddocaol, wedi’u cyfyngu i ardaloedd ar hyd arfordir Fylde a Sefton.

Er bod effeithiau lleol ar olygfeydd o’r rhan hon o’r arfordir, ni fydd yr effeithiau ond yn digwydd yn ystod cyfnodau prin o welededd pellter hir rhagorol, ac ni fyddant yn digwydd yn ystod y rhan fwyaf o amodau cyffredin.